Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill ar Lannau Merswy, wedi i blismon gael ei daro gan gar wedi’i ddwyn.

Roedd yr heddwas yn sefyll ar balmant tua 2 o’r gloch fore heddiw, pan gafodd ei daro gan gar Mitsubishi wedi’i ddwyn, a hwnnw’n cael ei erlid gan gar heddlu yn dilyn lladrad. Fe aeth y Mitsubishi i ben y pafin a tharo’r plismon, cyn gyrru ymaith.

Fe gafodd yr heddwas ei gludo i’r ysbyty, ond bu farw toc ar ôl cyrraedd.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r car wedi’i ddwyn, yn ddiweddarach, wedi’i adael ar ymyl ffordd.