Mae gyrrwr y lori ludw oedd wedi lladd chwech o bobol yn Glasgow ar Ragfyr 22 y llynedd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru tra ei fod wedi’i wahardd.

Mae Harry Clarke, 58, wedi’i amau o yrru ei gar ar Fedi 20 er ei fod wedi colli ei drwydded am resymau meddygol.

Aeth Clarke yn anymwybodol tra’n gyrru’r lori ludw yng nghanol dinas Glasgow.

Roedd e wedi mynd yn anymwybodol tra’n gyrru bws yn y gorffennol, ond nid oedd wedi rhoi gwybod i’r cyngor pan gafodd ei benodi’n yrrwr lori ludw.

Cafodd Erin McQuade, 18, ei mam-gu Lorraine Sweeney, 69, a’i thad-cu 69 oed, Jack Sweeney eu lladd yn y digwyddiad.

Y tri arall fu farw oedd Stephanie Tait, 29, Jacqueline Morton, 51, a Gillian Ewing, 52.

Cafodd 15 o bobol eraill eu hanafu.

Collodd Clarke ei drwydded am 12 mis ac fe gafodd ei wahardd rhag gyrru lori HGV am ddeng mlynedd.