Mae dynes oedrannus a phlentyn wyth oed wedi marw ar ôl i fws deulawr daro i mewn i ochr adeilad archfarchnad Sainsbury’s yn Coventry.

Collodd y gyrrwr reolaeth ar y cerbyd cyn taro’r adeilad yng nghanol y ddinas.

Roedd y bachgen yn teithio ar y bws, tra bod y ddynes yn cerdded ar y stryd. Bu farw’r ddau yn y fan a’r lle.

Cafodd merch naw oed anafiadau difrifol, ac mae hi’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Plant Birmingham.

Cafodd pump o bobol eraill eu trin yn yr ysbyty, tra bod un person arall wedi derbyn triniaeth ger safle’r ddamwain.

Tarodd y bws nifer o geir a phostyn cyn taro i mewn i’r adeilad am oddeutu 6 o’r gloch nos Sadwrn.

Cafodd yr ambiwlans awyr, parafeddygon, pump ambiwlans a thimau achub eu galw i’r digwyddiad.

Dydy hi ddim yn glir a gafodd unrhyw un y tu fewn i’r adeilad anafiadau.

Mae’r heddlu’n ymchwiliad i’r hyn oedd wedi achosi’r ddamwain, ac mae’r ffordd ger yr archfarchnad ynghau o hyd.