Llun: PA
Mae ceir disel sawl gwneuthurwr arall yn ogystal â Volkswagen yn cynhyrchu lefelau uchel tu hwnt o lygredd, yn ôl sefydliad moduro fwyaf Ewrop.

Dim ond chwarter o’r 79 car diesel newydd oedd wedi cael eu profi gan Adac oedd yn gwneud cystal  ag ym mhrofion swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl adroddiadau yn y Guardian a’r Independent.

Mae’r profion yn cynnwys ceir Renault, Nissan, Hyundai, Citroen, Fiat a Volvo, gyda cheir y Volvo S60, Renault Espace Energy, Jeep Renegade a Nissan X-Trail i gyd yn cynhyrchu dros 10 gwaith y lefel o ocsid nitraidd (NOx) sy’n cael ei ganiatáu.

Miliwn o geir

“Petai bob car yn cydymffurfio [â lefel NOx yr Undeb Ewropeaidd] fe fydden ni wedi datrys yr effeithiau iechyd gwaetha’,” meddai Reinhard Kolke, pennaeth profion a materion technegol Adac.

“Mae gan bob cwsmer yr hawl i ddisgwyl i bob gwneuthurwr wneud hyn. Ond mae rhai’n llygru’n sylweddol o hyd.”

Mae Nissan, Renault a Hyundai eisoes wedi mynnu eu bod nhw’n cydymffurfio â rheolau yn ymwneud ag allyriadau, ond dyw Citroen, Fiat a Jeep ddim wedi gwneud sylw eto.

Mae’r canfyddiadau diweddaraf yn dod ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod bron i un o bob deg car disel â systemau Volkswagen sydd wedi achosi’r sgandal ddiweddaraf.

Mae VW eisoes wedi cadarnhau bod 1.2miliwn cerbyd yng ngwledydd Prydain wedi cael eu heffeithio, gan gynnwys 508,276 car Volkswagen, 393,450 o Audis, 131,569 o Skodas, 79,838 cerbyd masnachol VW, a 76,773 o Seats.