Mae 292 o bobl wedi profi’n bositif am Covid-19 ar ôl achos mewn ffatri frechdanau yn Northampton.
Dywedodd y cwmni sy’n gwneud llawer o frechdanau i Marks and Spencer, Greencore, fod rhai o’i staff yn hunan-ynysu ar ôl i nifer sylweddol brofi’n bositif am coronafirws.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Northampton bod 79 o bobol wedi cael profion positif gan y Gwasanaeth Iechyd a bod 213 arall wedi profi’n bositif trwy brofion preifat gan gwmni Greencore.
Penderfynodd y cwmni brofi gweithwyr o ganlyniad i gynnydd mewn achosion yn y dref.
“Gallwn gadarnhau bod nifer o gydweithwyr wedi profi’n bositif am y firws a’u bod bellach yn hunan-ynysu”, meddai’r cwmni mewn datganiad.
“Ymhob achos rydym wedi olrhain cyswllt ac wedi gofyn i gydweithwyr a allai gael eu heffeithio i hunan-ynysu.
“Fel erioed, iechyd a lles ein cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth.”
Ychwanegodd Greencore fod mesurau llym mewn lle i leihau ymlediad y feirws yn ffatrioedd y cwmni.
Osgoi clo lleol
Eglurodd Lucy Wightman, cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd i Gyngor Sir Northampton mai osgoi clo lleol yw nod y cyngor.
“Mae Bwrdeistref Northampton wedi profi nifer uchel o achosion dros y pedair wythnos ddiwethaf.
“Rydym wedi gofyn i i drigolion a gweithwyr i weithredu nawr a dilyn mesurau ychwanegol, er mwyn osgoi clo lleol neu ymyrraeth bellach gan y llywodraeth.”