Mae dyn 20 oed o ardal y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd a bachgen 16 oed o Lanrhymni, wedi eu harestio ar amheuaeth o fod â dryll yn eu meddiant.
Cafodd swyddogion arfog eu galw i Benarth yn dilyn adroddiadau o saethu brynhawn Iau (Awst 13).
Er i ffordd Redlands gael ei gau i’r ddau gyfeiriad does dim adroddiadau o anafiadau difrifol.
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru i un person gael anaf i’w law yn y digwyddiad.