Mae ffigurau’r Gwasanaeth Iechyd yn dangos bod dros 1,000 o fenywod wedi mynd i ysbytai, meddygon teulu neu ganolfannau iechyd meddwl ar ôl cael eu horganau rhywiol wedi’u hanffurfio.

Dyma’r tro cyntaf i’r Gwasanaeth Iechyd gadw cofnodion o achosion o Lurguniad Organau Rhywiol Merched (FGM) ac mae’r ffigurau yn adlewyrchu cyfnod o dri mis rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni.

Yn Lloegr, roedd 1,036 o achosion newydd o FGM wedi cyrraedd y Gwasanaeth Iechyd, gyda 1,159 o achosion i gyd.

Rodd 60 o ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd wedi cyflwyno cofnodion o achosion o FGM.

Roedd naw o’r rhain yn ferched dan 18 oed pan cafon nhw eu gweld am y tro cyntaf gan y Gwasanaeth Iechyd.

Roedd y data, gan y Ganolfan Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol wedi canfod bod menywod a merched yn fwy tebygol o roi gwybod i’r awdurdodau eu bod wedi dioddef FGM.

Rhaid dod a’r arfer i ben dros y byd i gyd

“Mae’n ofnadwy gweld cymaint o achosion o FGM yma yn y DU,” meddai Tanya Barron, prif weithredwr Plan UK, elusen plant rhyngwladol.

“Rydym wedi gweld sylw mawr ar y broblem hon yn y blynyddoedd diwethaf a nawr rydym yn sylweddoli hyd a lled yr arfer ofnadwy hwn.

“Bydd yr arfer ddim yn dod i ben yn y DU hyd nes iddo ddod i ben dros y byd i gyd.”

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae FGM yn cael ei wneud am resymau cymdeithasol a chrefyddol ac mae’n “ffurf ddifrifol o wahaniaethau yn erbyn menywod”.

Mae babanod sy’n cael eu geni i fenywod sydd wedi bod trwy FGM yn fwy tebygol o farw o gymharu â’r rhai sy’n cael eu geni i fenywod sydd heb fynd  trwy’r arfer.

Mae FGM yn anghyfreithiol yn y DU, ac mae’n anghyfreithiol i fynd â menyw tramor at ddibenion FGM.

Gall rywun sy’n cael eu dal yn gwneud FGM neu’n caniatáu iddo ddigwydd wynebu 14 mlynedd yn y carchar.