Richard Bracken
Mae Aelod Cynulliad Aberconwy, Janet Finch-Saunders wedi galw am ymchwiliad ar ôl i lofrudd ddianc o uned seiciatryddol yn Llanfairfechan.

Roedd  Richard Bracken, 48, wedi cael caniatâd i adael Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan, Conwy am awr ar ei ben ei hun, ond fe fethodd a dychwelyd ar ôl gadael tua 11.35yb ddydd Llun.

Cafwyd hyd iddo yn Llundain nos Fawrth.

Roedd Heddlu’r Gogledd wedi rhybuddio y gallai beri risg iddo’i hun ac eraill os nad oedd yn cymryd ei feddyginiaeth.

Cafodd Bracken, a oedd yn arfer cael ei adnabod fel Richard Dennick, ei garcharu am oes am lofruddio’r Canon Alun Jones, 64, yn Llanberis yn 1982. Roedd yn 15 oed ar y pryd.

Mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â’r penderfyniad i’w ganiatáu i adael yr uned heb oruchwyliaeth, a pham nad oedd yr heddlu wedi hysbysu’r cyhoedd pwy oedd o na’i gefndir troseddol am 24 awr.

Cyfarfod cyhoeddus

Cafodd cynnig ei gyflwyno yn y Cynulliad heddiw gan Janet Finch-Saunders yn gofyn am ymateb gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, a hynny wedi i’r cais cyntaf gael ei wrthod.

Mae hi hefyd wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus yn Llanfairfechan ar Hydref 1.

Dywedodd Janet Finch-Saunders mewn datganiad: “Mae hi’n briodol ein bod ni’n edrych eto ar y dulliau cyfathrebu a’r broses arweiniodd at ryddhau Richard Bracken heb gael ei oruchwylio.

“Yn dilyn gohebiaeth gan etholwyr ddoe, rwy’n trefnu cyfarfod cyhoeddus fis nesaf – ac wedi cysylltu â’r heddlu a chynrychiolwyr o’r bwrdd iechyd.”

Roedd hi’n barod i ganmol ymdrechion yr heddlu wrth ddod o hyd i Bracken, ond ychwanegodd fod “cwestiynau i’w hateb”.

Ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Wrth ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr Athro Matt Makin: “Rydym yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod yn llawn bryderon cymuned Llanfairfechan ynghylch y claf a ddihangodd o Dŷ Llywelyn.

“Mae gan y Bwrdd Iechyd bolisi ymadael clir a gafodd ei lunio’n unol ag Uned Amddiffyn y Cyhoedd Heddlu’r Gogledd a MAPPA, ac mae unrhyw gais am ymadael heb oruchwyliaeth yn cael ei wneud gan y tîm clinigol mewn perthynas â’r partneriaid hyn.”

Ychwanegodd hefyd fod rhaid cynnal asesiad risg a bod unrhyw gais yn cael ei gymeradwyo gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder cyn rhyddhau cleifion.

“Ond fe fyddwn yn dysgu o’r digwyddiad hwn.”

Ychwanegodd y bydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal ac y byddai’r gwersi sy’n cael eu dysgu’n cael eu hychwanegu at eu polisi.