Mae cytundeb masnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd  “bellach yn annhebygol,” yn ôl prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd.

Ac mewn datganiad ysgrifenedig yn dilyn trafodaethau yn Llundain, dywed prif drafodwr y Deyrnas Unedig David Frost bod yno wahaniaethau sylweddol..

“Rydym wedi cynnal trafodaethau cadarnhaol ar fasnachu nwyddau a gwasanaethau yn ogystal â thrafnidiaeth, cydweithio ar ddiogelwch cymdeithasol a chyfranogiad mewn rhaglenni’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Ond mae yno fylchau mawr o hyd yn yr meysydd  anoddaf.”

Problem pysgodfeydd

Un o’r “meysydd anoddaf” yw pysgodfeydd.

Mewn cynhadledd i’r wasg yn Llundain, dywed Michel Barnier bod safiad y Deyrnas Unedig ar bysgodfeydd yn “annerbyniol”.

“Eto’r wythnos hon, dyw’r Deyrnas Unedig heb ddangos parodrwydd i symud ymlaen,” meddai.

“Wrth wrthod derbyn cystadleuaeth agored a theg na chytundeb deg ar bysgodfeydd, mae’r Deyrnas Unedig yn gwneud cytundeb fasnach yn annhebygol bellach.”