Mae Boris Johnson wedi canmol “cryfder” y Deyrnas Unedig yn ystod pandemig y coronafeirws cyn ei ymweliad a’r Alban.

Fe fydd y Prif Weinidog yn cyrraedd yr Alban heddiw (Dydd Iau, Gorffennaf 23) cyn iddo nodi blwyddyn union ers cyrraedd Downing Street ddydd Gwener.

Mae disgwyl iddo ddweud bod 900,000 o swyddi yn yr Alban wedi cael eu hachub yn ystod y pandemig drwy fod yn rhan o’r Deyrnas Unedig, yn ôl y BBC, sydd hefyd wedi adrodd bod Aelod Seneddol Inverness Drew Hendry o’r SNP wedi datgan y gallai’r Alban ffynnu fel gwlad annibynnol.

Dywedodd Downing Streeet y bydd Boris Johnson yn cwrdd â’r busnesau gafodd eu heffeithio gan y pandemig, rhai sy’n gweithio yn y diwydiant ynni gwyrdd ac aelodau o’r lluoedd arfog, i ddiolch iddyn nhw am eu hymateb i’r coronafeirws.

Dyma ei ymweliad cyntaf a’r Alban ers yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr.

Does dim cynlluniau i gwrdd â’r Prif Weinidog Nicola Sturgeon, sydd eisoes wedi dweud ei bod yn fodlon cwrdd â Boris Johnson.

Mae’r Prif Weinidog wedi rhoi addewid o £50 miliwn i Ynysoedd Erch, Shetland a’r Ynysoedd Gorllewinol er mwyn datblygu economi’r ynysoedd fel rhan o gynllun twf.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud y bydd hefyd yn buddsoddi’r un swm yn yr ynysoedd.

Annibyniaeth

Cyn ei ymweliad dywedodd Boris Johnson: “Mae’r chwe mis diwethaf wedi dangos yn union pam fod y cysylltiad hanesyddol sy’n clymu ein pedair cenedl mor bwysig ac mae cryfder ein hundeb wedi cael ei brofi unwaith eto.”

Daw ei ymweliad yn dilyn cynnydd yn y gefnogaeth am annibyniaeth i’r Alban yn ystod y misoedd diwethaf, yn ôl polau piniwn, gyda dau yn adrodd bod 54% o’r rhai oedd wedi ymateb yn awyddus i weld yr Alban yn gwahanu oddi wrth y Deyrnas Unedig.

Mae Boris Johnson eisoes wedi gwrthod cynnal refferendwm arall ar annibyniaeth.

Wrth drydar cyn ei ymweliad dywedodd Nicola Sturgeon ei bod yn croesawu’r Prif Weinidog i’r Alban gan ychwanegu: “Un o’r prif ddadleuon o blaid annibyniaeth yw galluogi’r Alban i wneud ei phenderfyniadau ei hun yn hytrach na bod gwleidyddion, nad oedden ni wedi pleidleisio drostyn nhw, yn penderfynu ar ein dyfodol ac yn mynd a ni i lawr llwybr nad ydyn ni wedi dewis. Mae ei bresenoldeb yn tanlinellu hynny.”