Mae Nicola Sturgeon yn annog ymgyrchwyr o blaid annibyniaeth i’r Alban i arwain drwy esiampl, sef ei dull hi o arwain y wlad yn ystod ymlediad y coronafeirws.
Dywed prif weinidog yr Alban fod y gefnogaeth i annibyniaeth wedi tyfu ers dechrau’r ymlediad wrth i bobol wylio’r llywodraeth yn gwneud penderfyniadau ar sail y pwerau datganoledig sydd ganddyn nhw.
Mewn cyfweliad â’r Scotsman ar achlysur ei phen-blwydd yn 50 oed, dywed iddi deimlo mwy o ryddid nag arfer wrth ymdrin â’r feirws, gan na fu’n rhaid rhoi sylw i wleidyddiaeth bleidiol.
“Dw i wedi ceisio – mewn ffordd na fu erioed i fi wneud o’r blaen o ran materion eraill – i dynnu rheolau traddodiadol gwleidyddol allan o wneud fy mhenderfyniadau,” meddai.
“Dw i ddim wedi pwyso a mesur penderfyniadau ynghylch y coronafeirws yn nhermau: beth mae hyn yn ei olygu i fy mhlaid? Beth mae’n ei olygu i restrau mewn polau piniwn? Beth mae’n ei olygu ar gyer yr etholiad nesaf? Beth mae’n ei olygu o ran yr hyn mae’r wrthblaid am ei ddweud amdanaf fi fory neu fis nesaf?
“Dw i wedi ceisio gwneud popeth â bat syth iawn; gwrando ar y cyngor arbenigol a barnu gorau gallaf.”
Annibyniaeth
Er bod y gefnogaeth i annibyniaeth ar gynnydd, mae’n dweud nad yw’r mater wedi dylanwadu arni wrth wneud penderfyniadau.
“Dw i ddim, ar unrhyw adeg yn ystod y coronafeirws, wedi pwyso a mesur penderfyniadau ar y sail: ‘Ydy hyn yn gwneud annibyniaeth yn fwy neu’n llai tebygol?” meddai.
“Ond mae gan fudiad Yes rywbeth i’w ddysgu, o bosib, am y ffaith, wrth i ni roi’r gorau i weiddi am annibyniaeth ac arnom ni ein hunain am sut rydym yn mynd ati o ran annibyniaeth, a chanolbwyntio ar [y feirws], fod hynny wedi galluogi pobol i gymryd cam yn ôl a dweud, “Wel, mewn gwirionedd, dyna fantais gwneud penderfyniadau drosom ein hunain” ac “efallai y byddai pethau’n well pe bai gyda ni rywfaint mwy o ymwneud â phenderfyniadau” a dod i’w casgliadau eu hunain.”
Ymateb Llafur yr Alban
Wrth ymateb, mae Llafur yr Alban yn cyhuddo Nicola Sturgeon o ddilyn yr un trywydd dro ar ôl tro.
“Dim ots pa mor galed mae hi’n trio, bydd Nicola Sturgeon bob amser yn gweld ei gwleidyddiaeth drwy brism y cyfansoddiad,” meddai Ian Murray, llefarydd materion yr Alban y blaid.
“Mae gwleidyddiaeth yr Alban wedi’i pharlysu o ganlyniad dros y degawd diwethaf, ar draul yr economi, ysbytai ac ysgolion.
“Ac mae ei chefnogwyr bellach yn despret i wneud yr etholiad y flwyddyn nesaf yn refferendwm arall ar y refferendwm.
“Dylai’r prif weinidog wrthod refferendwm annibyniaeth arall a rhoi’r gorau i raniadau ar y cyfansoddiad fel y gallwn ni ganolbwyntio’n ddiflino ar adferiad economaidd, achub swyddi yn yr Alban a gwarchod y Gwasanaeth Iechyd.”