Mae un o ymddiriedolaethau mwyaf y Gwasanaeth Iechyd ym Mhrydain wedi cael ei rhoi mewn mesurau arbennig ar ôl i adolygwyr ddweud ei bod yn ‘annigonol’.

Mae Ymddiriedolaeth Ysbytai Prifysgol Caergrawnt, sy’n gyfrifol am  Ysbyty Addenbrooke wedi cael gwybod bod angen iddi wella ei gwasanaethau i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn effeithiol.

Yn ôl y Comisiwn Ansawdd Gofal, er bod staff yno’n ofalgar, roedd prinder staff a phroblemau “difrifol” yno ers tro wedi cael eu hanwybyddu.

‘Pryderon difrifol’ yn yr adran famolaeth

Yn yr adran famolaeth, roedd adolygwyr wedi codi “pryderon difrifol”, gan ddweud nad oedd digon o fydwragedd yn yr adran a bod wardiau’n cael eu cau’n gyson.

Roedd un enghraifft o lefelau uchel o ocsid nitraidd (nwy chwerthin) yn cael ei ddefnyddio fel lladdwr poen yn ystod genedigaethau yng Nghanolfan Famolaeth Rosie.

Mae arbenigwyr wedi cysylltu lefelau uchel o’r nwy hwn i deimlo’n benysgafn, ac mae risgiau eraill yn cynnwys anymwybyddiaeth neu farwolaeth os oes diffyg ocsigen.

Roedd yr arolygwyr wedi dweud bod uwch reolwyr yn ymwybodol o’r lefelau uchel o nwy ers dros ddwy flynedd ac mai’r cwbl oedd wedi cael ei wneud oedd cynghori staff i agor ffenestri pan fo’n bosibl.

Roedd canllawiau arfer gorau heb gael eu dilyn, gan gynnwys monitro cyfradd calon y ffetws yn ystod geni’r babi a’r risg o glotiau gwaed.

Yn ôl yr arolygwyr, doedd dim digon o staff ar wardiau, gan gynnwys y ward gofal dwys, ac roedd gweithwyr yn cael eu symud o ward i ward i geisio dod i ben â’r prinder.

Roedd hyn yn golygu bod staff weithiau’n gweithio mewn meysydd dieithr heb hyfforddiant priodol, a bod rhai rotas â lleoedd gwag.

Mewn dyled o filiynau

Mae Ysbytai Prifysgol Caergrawnt sydd â dros 1,000 o welyau hefyd yn cael eu craffu am y ffordd mae’n delio ag arian.

Mae gan yr ymddiriedolaeth ddyled o £1.2 miliwn bob wythnos a’r darogan yw y bydd hyn dros £64 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn hon.

Mae cyn-brif weithredwr yr ymddiriedolaeth, Keith McNeil, a ymddiswyddodd wythnos diwethaf, wedi amddiffyn Addenbrooke’s gan ddweud bod “bywydau pobl yn cael eu hachub bob dydd gan yr ysbyty. Ni allaf ddeall pam fyddai rhywun am ddweud ei fod yn annigonol.”

Mae prif weithredwr dros dro’r ymddiriedolaeth David Wherrett wedi sicrhau cleifion eu bod yn ddiogel a bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael a’r pryderon a fynegwyd gan y Comisiwn Ansawdd Gofal.