Mae bywgraffiad newydd am fywyd David Cameron wedi corddi’r dyfroedd ar ôl honiad y Prif Weinidog wedi rhoi “rhan breifat o’i gorff” mewn ceg mochyn a oedd wedi marw, tra’n fyfyriwr.

Cafodd yr honiadau eu gwneud yn llyfr Call Me Dave: The Unauthorised Biography sydd wedi’i chyhoeddi gan yr Arglwydd Ashcroft, cyn-gyfrannwr i’r Blaid Geidwadol, a chyn-olygydd gwleidyddol y Sunday Times, Isabel Oakeshott.

Mae’r llyfr yn sôn am rhai o weithredoedd honedig y prif weinidog pan oedd yn fyfyriwr yn Rhydychen, gan gynnwys ysmygu canabis a chymryd rhan mewn “gweithred rywiol” â’r mochyn.

Ac mae’r honiad syfrdanol eisoes wedi cynhyrfu pobl ar wefannau cymdeithasol, gyda sawl un wedi’u synnu ac eraill yn procio hwyl ar y sefyllfa.

‘Tystiolaeth ffotograffig’

Dyw David Cameron a Downing Street heb ymateb i’r honiadau, ac mewn cynhadledd i’r wasg y bore yma fe wrthododd y Canghellor George Osborne ymateb gan ddweud nad oedd wedi darllen y llyfr.

Mae’r llyfr yn dweud bod Cameron wedi bod yn rhan o grŵp anniwair o’r enw’r Piers Gaveston Society, yn ogystal â’r Bullingdon Club adnabyddus, yn ystod ei gyfnod yn y coleg.

Yn ôl y bywgraffiad, roedd cyd-fyfyriwr sydd bellach yn AS wedi honni bod David Cameron wedi “rhoi rhan breifat o’i gorff i geg yr anifail” mewn seremoni urddo ar gyfer y grŵp.

Ychwanegodd yr Arglwydd Ashcroft yn y llyfr fod y dyn wedi gwneud yr honiad hwnnw sawl gwaith, a’i fod yn dweud bod tystiolaeth ffotograffig yn bodoli o’r weithred.

Ymateb

Mae’r honiadau wedi ennyn ymateb enfawr ar wefannau cymdeithasol, gyda #PigGate bellach yn trendio ar Twitter.

Roedd rhai yn ddigon parod gyda jôc.

Oes esboniad o’r diwedd am lun Ed Miliband a’r frechdan bacwn?

Tybed beth sydd gan Samantha Cameron i’w ddweud?

Cyd-ddigwyddiad mawr, medd rhai.

Cafodd rhai eu synnu fwy nag eraill.

Roedd eraill yn poeni am y sawl honedig oedd â’r llun o’r weithred.

Ac nid David Cameron yw’r unig un sydd yn teimlo cywilydd am y peth, mae’n debyg.