Llys Ynadon Merthyr
Fe fydd beiciwr modur yn mynd gerbron llys heddiw mewn cysylltiad â gwrthdrawiad sydd wedi gadael bachgen 10 oed mewn cyflwr difrifol.

Fe fydd Matthew John Johnson, 27 oed, yn mynd gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful ar gyhuddiad o achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus, a chyhuddiad arall o yrru’n ddiofal.

Honnir bod Matthew Johnson o Hendreforgan yng Ngilfach Goch, wedi taro Tye Hawkins, 10, gyda’i feic modur yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf ar 3 Medi.

Dywed Heddlu De Cymru bod Tye Hawkins yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.