Ni fydd y Blaid Lafur yn dileu Trident nac yn gadael Nato, meddai llefarydd materion tramor y blaid, Hilary Benn.
Mae arweinydd newydd y blaid, Jeremy Corbyn yn gwrthwynebu Trident ac wedi cwestiynu pwrpas y gynghrair filwrol.
Ond dywedodd Hilary Benn wrth raglen Andrew Marr y BBC mai Nato yw “conglfaen ein diogelwch”.
“Fy marn i yw fod angen i ni gynnal atalfa niwclear annibynnol.
“Ry’n ni’n byw mewn byd peryglus bellach. Mae angen atalfa barhaus yn y môr.”
Dywedodd nad yw’n gweld y ddau beth yn digwydd pan ofynnwyd iddo a fyddai’n parhau’n aelod o gabinet cysgodol Corbyn o dan yr amgylchiadau hynny.
Dywed papur newydd y Sunday Times fod hanner aelodau cabinet cysgodol Corbyn yn barod i gefnogi cyrchoedd awyr dros Syria, ac mae Hilary Benn yn eu plith.