Mae pôl newydd a gafodd ei gomisiynu gan Yes Cymru yn dangos bod traean o bobo yn Lloegr eisiau i’r Deyrnas Unedig ddod i ben.

Heb gynnwys y rhai ansicr eu barn a’r rhai oedd yn gwrthod ateb, dywedodd 35% eu bod nhw o blaid annibyniaeth i Loegr.

Ac mae barn Ceidwadwyr wedi’i hollti hefyd, gyda 49% o blaid annibyniaeth i Loegr, a 51% o blaid cynnal y Deyrnas Unedig.

25% o drigolion Llundain sydd o blaid annibyniaeth i Loegr, tra mai 38% yw’r ffigwr yn y gogledd a’r canolbarth.

Y rhai dros 65 oed sydd fwyaf tebygol o bleidleisio dros annibyniaeth i Loegr, yn ôl yr arolwg, gyda 48% ohonyn nhw o blaid.

‘Cefnogaeth led wahanol’

Mae Siôn Jobbins, cadeirydd Yes Cymru, a’r gwyddonydd gwleidyddol Dafydd Trystan wedi ymateb i’r pôl.

“Mae’r pôl hwn yn dangos dau beth pwysig a diddorol,” meddai Siôn Jobbins.

“Yn gyntaf, fod lleiafswm sylweddol o bobol yn Lloegr, yn enwedig y tu allan i Lundain, yn cefnogi Lloegr annibynnol.

“Yn ail, mae’n dangos bod y gefnogaeth i Loegr annibynnol yn dod o gyfeiriad cwbl wahanol i’r gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru a’r Alban.

“Mae’r gefnogaeth i Loegr annibynnol ymhlith pobol hŷn a phobol ar y dde, tra bod y gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru ar y cyfan ymhlith pobol iau ac ar y chwith.

“Y broblem i Gymru yw, er gwaethaf fod ganddi Senedd â rhai pwerau, rydym yn dal i gael ein rheoli gan blaid ac ideoleg wleidyddol sy’n gwrthwynebu’r rhan fwyaf o’r hyn y mae pobol Cymru’n credu ynddo.

“Annibyniaeth i Loegr yw’r eliffant yn lolfa wleidyddol Prydain.

“Mae annibyniaeth yn ffordd allan i Gymru.”

Yn ôl Dafydd Trystan, “mae’r canlyniadau hyn yn cyd-fynd â’r diffyg pwysigrwydd gafodd ei roi i gynnal yr Undeb ymhlith pleidleiswyr Ceidwadol yn y bleidlais ar Brexit a’i heffaith ar y berthynas rhwng Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon”.