Mae gwasanaeth coffa’n cael ei gynnal yn Abaty San Steffan ddydd Sul i nodi 75 o flynyddoedd ers Brwydr Prydain.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddilyn gan dderbyniad arbennig i gyn-filwyr a’u teuluoedd.

Mae disgwyl i’r Tywysog Charles, Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon a’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon fod yn bresennol yn y gwasanaeth.

Fel rhan o’r digwyddiadau, fe fydd awyrennau spitfire a hurricane yn hedfan dros y derbyniad.

Cafodd gwasanaeth tebyg ei gynnal ddydd Mawrth, union 75 o flynyddoedd wedi Brwydr Prydain.

Hon oedd y frwydr gyntaf a gafodd ei chynnal yn gyfangwbl yn yr awyr, ac roedd milwyr o Awstralia, Gwlad Belg, Canada, Tsiecoslofacia, Ffrainc, Iwerddon, Jamaica, Seland Newydd, Gwlad Pwyl, Rhodesia, De Affrica, yr Unol Daleithiau a Newfoundland yn rhan o’r cyrchoedd.

Bu farw mwy na 544 o beilotiaid a chriw yn ystod y frwydr.