Mae ceidwad sŵ wedi cael ei lladd gan deigr Sumatra yn Seland Newydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r safle yn Hamilton yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar ddynes gan un o bum teigr y sŵ.
Bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle.
Bu’n rhaid i ymwelwyr adael yn dilyn y digwyddiad, ac mae disgwyl i’r sŵ fod ynghau tan ddydd Iau.
Mae ymchwiliad ar y gweill.
Cyngor Dinas a Sir Hamilton sy’n gyfrifol am y sŵ.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor nad oedd perygl i’r cyhoedd yn dilyn y digwyddiad.
Mae 128,000 o ymwelwyr yn mynd i’r sŵ 62 erw yn Hamilton bob blwyddyn.
Mae teigrod Sumatra mewn perygl, ac mae llai na 400 ohonyn nhw ar ynys Sumatra erbyn hyn.