Mae ffoadur oedd yn ceisio cyrraedd Prydain wedi’i ladd ar un o drenau’r Eurotunnel neithiwr.

Mae’n debyg fod y ffoadur wedi’i drydanu i farwolaeth wedi iddo ddringo i ben to cerbyd ger mynedfa’r twnnel yn Ffrainc.

Fe ddywedodd un o weithwyr yr Eurotunnel fod y trên wedi gorfod stopio yn fuan ar ôl gadael Calais neithiwr am fod ymfudwyr yn croesi’r traciau tua 10.20 yr hwyr.

Pan aeth y swyddogion i archwilio’r trên, daethpwyd o hyd i nifer o ffoaduriaid yn y cerbydau, ac roedd un yn anymwybodol ac un arall wedi’i anafu’n ddifrifol.

Mae o leiaf 10 o bobol wedi marw hyd yn hyn wrth geisio croesi’r Sianel rhwng Calais a Phrydain ers i argyfwng y ffoaduriaid ddechrau yn gynharach eleni.