Gwnaed y sylwadau ar raglen Question Time
Mae canghellor yr wrthblaid yn San Steffan wedi ymddiheuro am sylwadau a wnaeth yn 2003, pan ddywedodd bod lle i glodfori milwyr yr IRA am eu rôl ym mhroses heddwch Gogledd Iwerddon.

Ar y pryd, fe ddywedodd yr Aelod Seneddol Llafur John McDonnell fod “bomiau a bwledi” yr IRA wedi helpu i ddod a Phrydain at y bwrdd trafod, gan arwain at yr heddwch sydd i’w gael heddiw.

Echdoe yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin bu David Cameron y beirniadu John McDonnell gan ddweud fod ei sylwadau’n “gywilyddus”.

Ar raglen Question Time neithiwr fe ddywedodd John McDonnell fod yr hyn a ddywedodd yn 2003  yn “gamgymeriad”.

Yn y gorffennol roedd y gwleidydd hefyd wedi cyfeirio at bresenoldeb milwyr Prydain yng Ngogledd Iwerddon fel “goresgynwyr”.

Aros yn Ewrop

Wrth i’r drafodaeth droi at bolisïau’r arweinydd Llafur newydd Jeremy Corbyn, mynnodd John McDonnell ar Question Time nad oedd unrhyw gynlluniau i godi’r gyfradd uchaf o dreth i 70% na gadael Nato.

Dywedodd Canghellor yr wrthblaid bod cyfradd dreth o 50% i’r rhai ar y cyflogau uchaf yn “rhesymol”.

Mae Jeremy Corbyn hefyd wedi awgrymu’n gryf y bydd y Blaid Lafur o dan ei arweinyddiaeth ef yn ymgyrchu o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn colofn i’r Financial Times dywedodd yr arweinydd Llafur ei fod yntau “eisiau gweld diwygiadau” yn Ewrop, ond rhai gwahanol i David Cameron a’r Ceidwadwyr.