Alex Salmond
Mae cyn-Brif Weinidog yr Alban wedi honni bod rhaniadau o fewn y blaid Lafur yn dilyn llwyddiant Jeremy Corbyn a “methiant” David Cameron i gadw at ei air am ragor o ddatganoli i’r Alban, wedi cynyddu’r tebygolrwydd y bydd refferendwm annibyniaeth arall.

Fodd bynnag, fe wnaeth Alex Salmond dderbyn y gallai safbwynt Jeremy Corbyn ar rai polisïau fel llymder a Trident ei gwneud yn haws i’r SNP a’r Blaid Lafur weithio gyda’i gilydd.

Fe ddywedodd fod ffactorau fel “peidio â gweithredu” addewid llywodraeth y DU i’r Alban, polisïau llymder y Ceidwadwyr, dyfodol sigledig yr Alban yn Ewrop yn sgil y refferendwm sydd ar ddod, a “diffyg” gallu’r Blaid Lafur i gael ei hethol, i gyd yn cyfrannu at y tebygolrwydd o gynnal refferendwm arall.

“O ran yr amseru, mae hynny’n fater i Nicola Sturgeon, fy olynydd, ac wrth gwrs i bobl yr Alban oherwydd, gall Nicola roi beth mae eisiau yn ei maniffesto ond mae’n rhaid i bobl yr Alban bleidleisio amdano,” meddai Alex Salmond, cwta flwyddyn ers i’r refferendwm yn yr Alban gael ei gynnal.

“Mae cefnogaeth am annibyniaeth wedi codi’n uwch na’r llynedd, a dyw hynny ddim yn ddelfrydol i Brif Weinidog sydd ag ond un AS yn yr Alban.”

Ar hyn o bryd, mae gan yr SNP 56 o Aelodau Seneddol, tra bod gan Lafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol un yr un yn yr Alban.

Digwyddiad ‘unwaith mewn cenhedlaeth’

 

“Fe wnaeth pobl yr Alban bleidleisio’n bendant i aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig ac roedd Cytundeb Caeredin yn ymrwymo’r ddwy lywodraeth i barchu’r canlyniad,” meddai llefarydd ar ran Downing Street wrth ymateb i sylwadau cyn-arweinydd yr SNP.

“Mae’n bwysig nawr bob pawb yn parchu Cytundeb Caeredin a gafodd ymrwymiad gan y ddwy lywodraeth.”

“(Ar adeg y refferendwm) roedd pawb yn siarad amdano fel digwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth.

“Barn y Prif Weinidog yw y dylem ganolbwyntio ar ddatganoli a gweithredu’r ymrwymiadau roeddem wedi’u gosod, yn hytrach na siarad am wahanu.”