Stormont
Mae’r ansicrwydd ynglŷn â dyfodol gwleidyddol Gogledd Iwerddon yn parhau wedi i’r ddwy brif blaid unoliaethol wrthod dweud a fyddan nhw’n cymryd rhan mewn trafodaethau.

Dywedodd Plaid Democratiaid Unoliaethol (DUP) ac Unoliaethwyr Ulster (UUP) eu bod nhw eisiau gweld camau pendant yn cael eu cymryd yn erbyn parafilwriaeth cyn y byddan nhw’n fodlon siarad â phleidiau eraill.

Yn gynharach roedd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Theresa Villiers wedi dweud y byddai’n “ystyried yn ddwys” a oedd angen corff i fonitro grwpiau parafilwrol ac y byddai’r llywodraeth yn “ystyried” ffyrdd newydd o ddelio â throseddu.

Daeth yr argyfwng diweddaraf i’r wyneb yn dilyn llofruddiaeth oedd wedi’i gysylltu ag aelodau o’r IRA, gyda gwleidyddion unoliaethol yn ymddiswyddo o lywodraeth glymblaid Gogledd Iwerddon mewn protest.

‘Ffars’

Dywedodd arweinwyr y DUP a’r UUP na fyddan nhw’n cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau nes bod Theresa Villers yn rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â’r camau roedd llywodraeth Prydain am eu cymryd.

Ond fe fynnodd Sinn Fein, y brif blaid weriniaethol, fod y sefyllfa yn “ffars” a bod un ai angen i bawb ymuno yn y trafodaethau yn syth, neu fod angen cynnal etholiadau brys.

Cafodd yr argyfwng gwleidyddol ei sbarduno ar ôl llofruddiaeth Kevin McGuigan, gyda’r heddlu yn amau aelodau o’r IRA o fod yn gyfrifol.

Y gred oedd bod llofruddiaeth Kevin McGuigan yn weithred o ddial am lofruddiaeth cyn-arweinydd yr IRA Gerard ‘Jock’ Davison ym Melffast tri mis yn ôl.

Yn dilyn llofruddiaeth Kevin McGuigan fe ymddiswyddodd pedwar o’r pump o weinidogion oedd gan y DUP o lywodraeth Gogledd Iwerddon, gyda gweinidog yr UUP hefyd yn ymddiswyddo.