Joshua Hazelby Fear
Mae crwner mewn cwest i farwolaeth bachgen saith oed, a oedd wedi boddi yn Afon Taf ger Merthyr Tudful, wedi dweud bod ei farwolaeth yn “drasiedi ofnadwy.”

Disgynnodd Joshua Hazelby Fear i’r afon ym mis Mai wrth daflu cerrig i’r dŵr gyda ffrindiau ger Mynwent y Crynwyr.

Cafwyd hyd iddo ar greigiau i lawr yr afon, a bu farw yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Yn y cwest yn Aberdâr heddiw, cofnodwyd rheithfarn o farwolaeth trwy ddamwain gan y crwner dros Bowys, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg, Andrew Barkley.

Neges destun

Mewn datganiad gan fam y bachgen, fe eglurodd Elizabeth Hazelby Fear fod Joshua wedi bod allan yn chwarae gyda’i ffrindiau ar 11 Mai. Dywedodd fod yr afon y tu hwnt i’r ffiniau lle’r oedd Joshua yn cael chwarae, ac roedd yn gwybod hynny.

Pan nad oedd wedi dod nôl i’r tŷ ar ôl dwy awr yn chwarae, aeth allan i chwilio amdano, a chafodd neges destun yn dweud bod ei mab wedi disgyn i mewn i’r afon.

Roedd y fam wedi ymuno ag eraill i chwilio am Joshua pan welodd crys coch ar graig yng nghanol yr afon ac aeth i mewn i nôl ei mab.

“Roeddwn yn ei ddal yn fy mreichiau yn sgrechian am help,” meddai.

Cafodd Joshua ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle bu farw.

Wrth siarad ar ôl y cwest, dywedodd ei dad, Graham Hazelby Fear ei fod am i Joshua gael ei gofio fel “bachgen bach hapus, dymunol a oedd wrth ei fodd yn mynd allan gyda’i ffrindiau ar ei feic.

“Roedd yn dwlu ar fynd i’r ysgol ac roedd yn glyfar iawn. Mae beth sydd wedi digwydd yn drist iawn, mae’n anodd iawn arnom ni. Roedd yn blentyn mor hyfryd,” meddai ei dad.