Fe fydd diwrnod o weithredu diwydiannol yn cael ei gynnal i brotestio yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth i ddiwygio’r rheolau cynnal streic.

Mae’r undebau yn gandryll â’r Ceidwadwyr yn San Steffan ynglŷn â’r Bil Undebau Llafur, gan gyhuddo’r Llywodraeth o geisio eu dinistrio nhw a sathru ar hawliau gweithwyr.

Penderfynodd Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) i gefnogi ymgyrch fydd yn cynnwys camau diwydiannol, sifil a chyfreithiol yn cynnwys gweithwyr, ymgyrchwyr hawliau sifil a grwpiau eraill.

Ond mae rhai wedi galw am fynd hyd yn oed ymhellach, a chynnal streiciau cyffredinol ar draws y wlad.

‘Rhagfarn dosbarth’

Mae’r llywodraeth wedi dweud eu bod nhw’n awyddus i gyflwyno’r newidiadau er mwyn cyfyngu grym undebau pwerus.

Ond fe fynnodd arweinydd Unite, Len McCluskey,  y byddai ei undeb ef yn gwrthwynebu’r Bil drwy “unrhyw fodd posib” er mwyn amddiffyn hawliau gweithwyr.

“Mae hon yn gorff sydd o’r cychwyn cyntaf wedi sicrhau gwelliannau i fywyd gwaith miliynau o bobl ym mhob cenhedlaeth,” meddai Len McCluskey.

“Mae wedi sicrhau cyfoeth ein gwlad ac wedi ymladd dros y datblygiad cymdeithasol a gwleidyddol sydd wedi gwneud y wlad hon yn le ar gyfer tegwch, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

“Ond yn lle cydnabod ein rôl mae’r Prif Weinidog yn ceisio portreadu miliynau o undebwyr llafur a’u teuluoedd fel ‘y gelyn o’r tu mewn’, gyda phlaid Dorïaidd sydd yn llawn rhagfarn dosbarth ac eisiau dinistrio’r undeb yma fel rhan o gymdeithas Prydain.

“Maen nhw’n ceisio lleihau undebau llafur i ddim mwy nag asiantau cyngor cyflogaeth, ac ar yr un pryd troi ein haelodau ni sydd yn meiddio gweithredu yn droseddwyr.”

Mae’r Llywodraeth wedi cael rhybudd y bydd gweithwyr yn pleidleisio yn erbyn parhau yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd os yw’n golygu telerau gwaeth i weithwyr yn sgil diwygio aelodaeth Prydain o’r UE.

Fe fydd arweinydd newydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn yn annerch yn gynhadledd prynhawn ma.