Banc Lloegr
Roedd cyfradd chwyddiant wedi disgyn i sero yn ystod y mis diwethaf, yn ôl y ffigurau diweddaraf.
Fe gwympodd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) o 0.1% ym mis Gorffennaf, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae CPI wedi bod oddeutu sero ers mis Chwefror.
Mae hyn yn bennaf oherwydd gostyngiad mewn prisiau dillad ynghyd â chwymp mewn prisiau petrol.
Dengys ffigurau mis Awst fod pris litr o ddisel wedi disgyn 6.2c, a phris litr o betrol wedi disgyn 2.4c.
Mae’n golygu mai ychydig iawn o bwysau sydd ar Fanc Lloegr i godi cyfraddau llog sydd wedi bod yn 0.5% ers mwy na chwe blynedd.
Dywedodd Philip Gooding o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) fod y gyfradd hon yn “golygu fod prisiau Awst eleni, ar y cyfan, yr un peth â phrisiau Awst y llynedd”.
Dillad, bwyd a llyfrau…
Ynghyd â phrisiau dillad i fenywod a thanwydd, mae cwymp hefyd wedi bod mewn prisiau llyfrau a thocynnau i ddigwyddiadau diwylliannol, megis theatrau a chlybiau.
Fe wnaeth prisiau bwyd a diodydd meddal hefyd ddisgyn am yr 14 mis yn olynol, gan dorri record ers i’r cofnodion ddechrau yn 1989.
Roedd Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI), mesur arall ar gyfer chwyddiant sy’n cynnwys costau tai, gynyddu i 1.1% o’i gymharu â 1% ym mis Gorffennaf.
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: “Mae’r ffigwr heddiw yn hwb sylweddol i bobl sy’n gweithio a theuluoedd, gyda phrisiau wedi cael eu rhewi o’i gymharu â’r llynedd tra bod cyflogau’n parhau i gynyddu.”