Mae cyn-gapten tîm criced Lloegr, Brian Close wedi marw’n 84 oed.

Cynrychiolodd Swydd Efrog a Gwlad yr Haf, ac fe enillodd 22 o gapiau dros y tîm cenedlaethol.

Yn ystod ei yrfa, fe sgoriodd bron i 35,000 o rediadau, gan gynnwys 52 canred, ac fe gipiodd 1,168 o wicedi.

Close yw’r chwaraewr ieuengaf erioed i gynrycholi Lloegr, ac yntau wedi ymddangos am y tro cyntaf yn 18 oed yn 1949 yn erbyn Seland Newydd.

Roedd yn gapten ar dîm Lloegr saith o weithiau, ac fe enillodd 22 o gapiau dros ei wlad.

Yn gapten ar Swydd Efrog, fe enillodd y sir Bencampwriaeth y Siroedd bedair gwaith a Chwpan Gilette ddwy waith o dan ei arweiniad.

Wedi iddo symud i Wlad yr Haf, fe gafodd gryn ganmoliaeth am ddatblygu gyrfaoedd Viv Richards ac Ian Botham.

Y tu hwnt i’r byd criced, roedd Close hefyd yn bêl-droediwr dawnus ac fe chwaraeodd dros Leeds, Arsenal a Bradford.

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd y cyn-dyfarnwr y Llywydd Clwb Criced Swydd Efrog, Harold ‘Dickie’ Bird: “Roedd Brian Close yn un o fawrion Swydd Efrog.

“Fe fydd yn cael ei gofio fel un o’r cricedwyr dewraf erioed. Fe fyddai’n sefyll i faesu’n agos, tua llathen i ffwrdd o’r bat, a fyddai e ddim yn symud pe bai’r bêl yn ei daro. Fe fyddai’n cymryd y peth ac yn symud ymlaen.

“Fel capten, mae ei record yn siarad drosti’i hun. Fe yw capten mwyaf llwyddiannus Swydd Efrog wedi’r rhyfel – gan ennill Pencampwriaeth y Siroedd bedair gwaith ac fe fydd e bob amser yn cael ei ystyried yn un o’r capteniaid gorau yn y gêm.

“Fe arweiniodd e ar flaen y gad a wnaeth e byth gamu nôl.

“Fe gafodd e gryn barch gan ei gyd-chwaraewyr. Roedd ganddo fe’r gallu i gael y gorau o bob chwaraewr o dan ei adain gyda’i agwedd ddi-ofn a dewr i’r gamp.”