Mae Heddlu Glannau Merswy wedi dod o hyd i ferch 12 oed fu ar goll o’i chartre’, yn ddiogel.

Roedd swyddogion wedi apelio’n daer am help y cyhoedd wedi i Lois Ulgalde o Crosby fethu â dychwelyd adre’ o’r ysgol ddydd Gwener.

Doedd neb wedi ei gweld ers 2.30yp, a hynny ger ei hysgol yn ardal Anfield.

“Rydyn ni’n hapus iawn o allu cyhoeddi fod Lois Ulgalde yn ddiogel, a’n bod wedi dod o hyd iddi yn Lerpwl. Diolch i bawb ar y gwefannau cymdeithasol, am ymateb i’n hapêl am wybodaeth.”