Mae cyffuriau gwerth miliwn o bunnau wedi’u canfod ym mhorthladd Dulyn.

Fe ddaethpwyd o hyd i 15 cilogram o’r cyffur cocên mewn cerbyd oedd newydd gyrraedd yno o’r Deyrnas Unedig ddoe.

Roedd cyrch wedi’i drefnu ar y cyd rhwng heddlu’r Garda a’r Gwasanaeth Cyllid a Thollau.

Cafodd dyn 36 oed ei arestio a’i gyhuddo o nifer o droseddau’n ymwneud â chario cyffuriau. Mae’n parhau yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron llys yn Nulyn fory.