Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi i’w gar daro coeden yn Abertawe nos Sadwrn.
Daeth ei gar Peugeot oddi ar y ffordd yn Heol Gellifedw yn ardal Gellifedw am oddeutu 8.30 neithiwr.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Treforys.
Cafodd nifer o bobol eraill eu trin am fân anafiadau.