Mae Jeremy Corbyn wedi dechrau ar y gwaith o benodi ei gabinet cysgodol cyntaf fel arweinydd y Blaid Lafur.

Daeth cadarnhad eisoes y bydd Rosie Winterton yn parhau’n Brif Chwip.

Wedi iddo gael ei ethol, dywedodd Corbyn: “Ar ôl y mandad sylweddol gawson ni heddiw, rydyn ni’n dod â thîm seneddol newydd ynghyd i fynd â’n neges at y genedl.

“Fe awn ymlaen yn unedig ac yn benderfynol, ac rwy wrth fy modd o gael penodi Rosie Winterton i barhau i wasanaethu fel Prif Chwip.”

Roedd Winterton yn gynorthwy-ydd i John Prescott ac yn weinidog o dan Tony Blair a Gordon Brown.

Daeth yn Brif Chwip o dan Ed Miliband.

Mae nifer o aelodau seneddol blaenllaw eisoes wedi datgan na fyddan nhw’n derbyn swyddi yng nghabinet cysgodol Corbyn.

Ymhlith y cyntaf i wneud y fath gyhoeddiad oedd un o’r ymgeiswyr yn y ras am yr arweinyddiaeth, Yvette Cooper, fu’n llefarydd materion cartref y Blaid ers 2011.

Mae Rachel Reeves, Emma Reynolds, Tristram Hunt, Chris Leslie a Jamie Reed hefyd wedi datgan na fyddan nhw’n ymuno â chabinet cysgodol Llafur.

Mae’r cyn-arweinydd Ed Miliband wedi dweud ei fod yn cefnogi Corbyn, ond mae yntau hefyd wedi dweud na fydd yn derbyn swydd yn y cabinet cysgodol.

Posibiliadau

Mae adroddiadau’n awgrymu mai Angela Eagle neu John McDonnell fydd yn derbyn swydd y canghellor cysgodol.

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd lle i un arall o’r ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth, Andy Burnham, na chwaith Chuka Umunna.