(llun: PA)
Huw Prys Jones yn trafod effeithiau posibl buddugoliaeth Jeremy Corbyn ar wleidyddiaeth Cymru

Mae’r fuddugoliaeth ynddi’i hun yn ddigon o syndod.

Pe bai rhywun wedi dweud dri mis yn ôl mai Jeremy Corbyn fyddai arweinydd newydd y Blaid Lafur, go brin y byddai llawer wedi eu credu.

Ond yr hyn sy’n fwy anhygoel fyth ydi graddau’r fuddugoliaeth, wrth iddo ddenu dros chwarter miliwn o bleidleisiau, a oedd bron yn 60% o’r cyfanswm.

Mae’r Blaid Lafur o’r herwydd wedi newid yn llwyr o’r hyn a oedd ychydig wythnosau’n ôl heb sôn am y dyddiau pan oedd Tony Blair yn ei anterth.

Nid oes y fath blaid â Llafur Newydd yn bod bellach. Cafodd y gwacter ystyr a oedd yn gysylltiedig â honno ei wrthod gan yr etholwyr yn 2010 a 2015, a’i gladdu mewn ffordd gwbl ddiamwys gan aelodau a chefnogwyr Llafur dros yr wythnos ddiwethaf.

Mae’n sicr o fod yn destun trafod am sawl blwyddyn i ddod sut y daeth pethau i hyn. Sut fod y garfan sydd wedi rheoli’r blaid – a hynny â disgyblaeth ddiarhebol o haearnaidd ar adegau – am dros 20 mlynedd wedi gadael i’w holl waith gael ei ysgubo o dan eu traed? A pham fod aelodau cyffredin y blaid mor benderfynol o gladdu Llafur Newydd?

Mae’n sicr fod hynny i raddau helaeth oherwydd fod Tony Blair wedi eu gwthio’n rhy bell. Hyd yn oed os oedden nhw’n fodlon bod yn ddistaw tra oedd Llafur yn ennill etholiadau, doedd dim diben dal yn ôl wedi chwalfa fel a ddigwyddodd ym mis Mai eleni.

Chwa o awyr iach

Ar lawer ystyr, mae ethol Corbyn yn chwa o awyr iach i wleidyddiaeth yn gyffredinol.

Mae’n amlwg yn adwaith yn erbyn y tueddiad o bob gwleidydd yn ailadrodd ei gilydd fel robotiaid, a siarad mewn ystrydebau gwag nad oes fawr neb yn eu deall.

Mae’n dda gweld rhywun sy’n dweud ei farn yn bwyllog a gonest yn cael ei barchu, a bod hyn yn cael blaenoriaeth ar ffactorau fel personoliaethau carismataidd neu eu hoedran.

Mae’n dda hefyd gweld rhai o hanfodion polisïau economaidd y Llywodraeth yn cael eu herio mewn ffordd na fuon nhw o’r blaen. Os oes gwirionedd yn y cyhuddiad fod Llafur wedi gwneud llanast o’r economi, rhaid cofio mai llywodraethau o dan Tony Blair a Gordon Brown oedd y rhain, nid rhai radical sosialaidd.

Mwy calonogol fyth ydi gweld materion fel gwrthwynebiad i Trident, er enghraifft, yn cael sylw llawer amlycach o hyn ymlaen.

Wrth gwrs, amser yn unig a ddengys i ba raddau y gwelwn rai o’r newidiadau gwleidyddol sydd eu hangen. Un o’r pethau lleiaf deniadol ynglŷn â’r blaid Lafur – ac mae hyn yn wir am ei hasgell chwith a’i hasgell dde fel ei gilydd – ydi’r meddylfryd mai dim ond nhw a all fod yn ddewis arall heblaw’r Torïaid. Mae bod yn gynhwysol yn golygu estyn allan at bobl y tu allan i Lafur yn ogystal ag oddi mewn i’r blaid.

Mae cwestiynau sylfaenol wrth gwrs o ran pa mor etholadwy fydd plaid Lafur o dan ei arweiniad, ond mi fyddai hynny wedi bod yn gwestiwn yr un mor berthnasol am y tri ymgeisydd arall hefyd. Oherwydd hynny, ac yn sgil maint ei fuddugoliaeth, mae’n debyg fod aelodau Llafur wedi gwneud dewis doeth o dan yr amgylchiadau.

Effaith ar Gymru

Y cwestiwn mwyaf diddorol i ni fydd beth fydd effaith ei fuddugoliaeth ar wleidyddiaeth Cymru?

O ddechrau gyda’r Blaid Lafur, mae’n debygol y bydd yn cryfhau galwadau am ei gwneud yn blaid fwy annibynnol. Roedd Rhodri Morgan yn ymfalchïo yn y ffaith fod Llafur Cymru yn blaid mwy radicalaidd na phlaid Tony Blair; roedd hynny’n cael ei weld gan rai fel ymgais i wrthsefyll bygythiad gan Blaid Cymru.

Yn eironig, efallai y bydd pellter rhwng Llafur Cymru a Llafur Llundain yn help i wrthsefyll bygythiad gan y Blaid Geidwadol erbyn hyn. Gallai plaid lafur annibynnol Gymreig yn fwy abl i amddiffyn Gogledd Caerdydd a Bro Morgannwg yn ogystal â Llanelli a’r Rhondda.

Diddorol oedd gweld sylwadau Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, yn ceisio creu cysylltiad ar unwaith ym meddyliau pobl rhwng y llywodraeth lafur yng Nghymru a pholisïau Jeremy Corbyn. Mae’n ddigon posibl y bydd meithrin syniad o’r fath yn fanteisiol iddyn nhw mewn sawl etholaeth.

Y perygl i Blaid Cymru

Does fawr o amheuaeth mai Plaid Cymru sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf yn sgil y fuddugoliaeth heddiw.

Yn ogystal â gorfod wynebu bwystfil pur wahanol o hyn ymlaen, mae hi hefyd mewn perygl gwirioneddol o gael ei gwasgu rhwng Llafur a’r Torïaid.

Yn sicr, ni fydd unrhyw ddiben seilio gormod o’i hapêl ar frwydro yn erbyn llymder pan fydd y Blaid Lafur yn cael llawer mwy o sylw a hygrededd wrth bregethu union yr un neges.

Anodd iawn hefyd ydi dychmygu apêl sosialaeth ar raddfa fach yng Nghymru os bydd hynny’n cael ei gynnig ar raddfa fwy ledled Prydain.

Mi fyddwn i hefyd yn disgwyl y bydd Llafur yn mwynhau ychydig fisoedd o frwdfrydedd ymysg aelodau, a all fod o help iddyn nhw wrth ymgyrchu yn etholiad y Cynulliad.

Ar y llaw arall, os bydd gwleidyddiaeth radical Jeremy Corbyn yn mynd i drafferthion, ac yn arwain at ymraniadau mewnol, i ba raddau y byddai Plaid Cymru mewn sefyllfa i fanteisio ar hynny?

Anodd iawn fyddai dychmygu Leanne Wood yn ceisio denu pleidleiswyr Llafur at Blaid Cymru ar y sail fod Llafur yn blaid rhy eithafol asgell chwith. Mi fyddai hefyd yn dân ar groen rhai o aelodau Plaid Cymru pe byddai blaid Lafur yn cael ei gweld fel petai’n cynnig polisïau mwy radicalaidd a sosialaidd na nhw.

Ond nid mater sy’n ymwneud â’r arweinyddiaeth bresennol yn unig ydi hyn, nac ychwaith y potensial o golli ychydig aelodau asgell chwith.

Mae’r syniad mai Blaid Cymru sy’n gwisgo mantell radicaliaeth yng Nghymru’n rhywbeth sy’n ddwfn yn niwylliant y Blaid ers degawdau. Mi fydd trwch helaeth o’i haelodau hefyd yn cydymdeimlo’n ddwfn â llawer o agweddau rhyngwladol a gwrth-filwrol Jeremy Corbyn.

O’r herwydd, os bydd adwaith yn erbyn gwleidyddiaeth asgell chwith, mae’n debygol iawn mai’r Torïaid ac nid Plaid Cymru a fyddai ar eu hennill.

Mae’n annhebygol fod llawer y gall Plaid Cymru ei wneud i wrthsefyll yr hinsawdd gwleidyddol dros y misoedd nesaf.

Y newydd da iddi yw y dylai, oherwydd natur ei chefnogaeth, allu cyfyngu ei cholledion i un neu ddwy sedd hyd yn oed os bydd cyfanswm ei phleidleisiau ledled Cymru’n cael ei wasgu.

Wrth edrych ymhellach i’r dyfodol, fodd bynnag, mi fydd yn rhaid iddi holi ei hun o ddifrif am ei swyddogaeth a’r hyn y mae’n sefyll drosto.  Efallai ein bod ar drothwy cyfnod pan fydd yr hinsawdd gwleidyddol yn newid yn gyflymach nag erioed o’r blaen. Os felly, y pleidiau mwyaf llwyddiannus fydd y rhai a fydd yn gallu addasu eu hunain gyflymaf i amgylchiadau newydd.