Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl i gorff dynes gael ei darganfod yn ardal Tremorfa o Gaerdydd ddoe.

Cafwyd hyd i Nadia Jones, a oedd yn 38 oed, tua hanner dydd yn ei fflat ar Meirion Place, gerllaw Mercia Road.

Mae pump o ddynion rhwng 27 a 36 oed wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r llofruddiaeth ac yn cael eu holi yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan unrhyw rai a allai fod wedi gweld Nadia, neu unrhyw weithgaredd yn ei fflat, yn yr oriau cyn y cafwyd hyd iddi ddoe.

Maen nhw’n gofyn ar i bobl gysylltu â nhw ar 101 neu’n ddienw ar Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.