Gerry Adams
Os nad oes modd cael trafodaethau i ddatrys argyfwng gwleidyddol Golgedd Iwerddon, fe fydd rhaid cael etholiad newydd, meddai arweinydd plaid weriniaethol Sinn Fein.

Dyw’r blaid ddim eisiau etholiad, meddai ei Llywydd,  Gerry Adams, ond dyna’r unig ateb os na fydd cytundeb i achub y Cynulliad yn Stormontar ôl ymddiswyddiad y Prif Weindog, Peter Robinson, a thri arall o weinidogion plaid unolaethol y DUP.

Yn ôl llawer o sylwebwyr, dyma’r argyfwng gwaetha’ yn hanes y Cynulliad ers ei sefydlu yn 1998 – er fod ei waith wedi ei atal bedwar tro cyn hyn.

Y cefndir

Dim ond un o weinidogion y DUP sydd wedi aros yn rhan o’r Llywodraeth rhannu grym yn Belffast –  Arlene Foster fydd y Prif Weinidog tros dro ac mae ei phresenoldeb yn golygu bod y DUP yn cadw ei fito ar benderfyniadau.

Hebddi hi, y gred yw y byddai Llywodraeth Prydain wedi gorfod diddymu’r Cynulliad ond, fel y mae, mae pedair o adrannau’r Llywodraeth heb weinidog.

Roedd Peter Robinson wedi galw am atal gwaith y Cynulliad tros dro er mwyn cael trafodaethau am ran yr IRA, hen adain filwrol Sinn Fein, yn llofruddiaeth dyn ym Melffast.

Fe wrthododd y pleidiau eraill wneud hynny ac fy gyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod yn ymddiswyddo.

‘Esgus’

Yn ôl rhai arbenigwyr gwleidyddol, mae problem yr IRA yn cael ei defnyddio’n esgus i ansefydlogi’r Cynulliad.

Ac mae Gerry Adams wedi gwrthod yr honiad fod Sinn Fein yn dal i ymwneud â dulliau trais.

Fe apeliodd ar i holl wleidyddion y dalaith ddod at ei gilydd i drafod er mwyn achub datganoli a’r drefn o rannu grym rhwng y gweriniaethwyr a’r unolaethwyr.

Er mai egin lywodraeth oedd hon a fod y gwaith yn galed, roedd hynny’n well na rhyfel, meddai Gerry Adams sydd wedi dod dan bwysau a.