Angladd Kevin McGuigan
Mae dynes wedi’i harestio gan yr Heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth sy’n gysylltiedig gydag aelodau’r IRA.
Cafodd y ddynes, 50, ei harestio mewn cysylltiad gyda llofruddiaeth Kevin McGuigan ym Melfast fis diwethaf.
Mae tri dyn, yn cynnwys cadeirydd plaid weriniaethol Sinn Fein yn y gogledd, Bobby Storey yn dal i gael eu holi gan swyddogion yr Heddlu yng Ngogledd Iwerddon.
Mae Bobby Storey ymhlith tri o ddynion 45, 58 a 59 oed a gafodd eu harestio ym Melfast ddydd Mercher fel rhan o ymchwiliad yr heddlu.
Mae’r ddau arall, Eddie Copeland a Brian Gillen, hefyd yn weriniaethwyr amlwg.
Mae swyddogion wedi dweud nad oedd llofruddiaeth Kevin McGuigan wedi’i awdurdodi gan yr IRA ond fod posibilrwydd fod yr IRA Dros Dro yn gyfrifol.
Maen nhw’n honni fod Kevin McGuigan wedi’i saethu’n farw er mwyn talu’r pwyth yn ôl am lofruddiaeth cyn garcharor yr IRA, Gerard “Jock” Davison, yn ei gartref ym Melfast ym mis Mai.