Fe wariodd Aelodau Seneddol Cymru gyfanswm o bron i £6.8m ar gostau a threuliau yn ystod 2014/15, yn ôl y ffigyrau diweddaraf i gael eu cyhoeddi heddiw.

Dangosodd data Ipsa, y corff sydd yn rheoleiddio gwariant y gwleidyddion, mai AS Ceidwadol Bro Morgannwg Alun Cairns hawliodd y mwyaf o arian – £191,333.

Roedd yr ASau Ceidwadol Simon Hart (Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro) a Glyn Davies (Sir Drefaldwyn), AS Plaid Cymru Hywel Williams (Arfon) a’r AS Llafur Owen Smith (Pontypridd) hefyd yn y pump uchaf o ran faint wnaethon nhw wario.

Ar y llaw arall, AS Llafur Gwyr Martin Caton oedd â’r costau isaf, gan wario dim ond £114,073.

Mae’r ffigyrau yn cynnwys costau teithio, llety, swyddfa a staffio, ond nid cyflogau’r ASau.

Aros yn gyson

Mae’r costau wedi aros codi ychydig o’i gymharu â llynedd, pan oedd ffigwr gwariant gwleidyddion Cymru yn San Steffan hefyd yn £6.6m.

Ar gyfartaledd fe wariodd ASau Cymru gyfanswm o £168,757 yr un ar eu costau a’u treuliau.

Mae’r cyhoeddiad am gostau a threuliau’r gwleidyddion yn dod ar yr un diwrnod a gyhoeddodd Ipsa restr o 26 o ASau sydd dal heb ad-dalu dyledion y mae arnyn nhw am hawlio treuliau ar gam.

Gweler rhestr lawn o gostau a threuliau Aelodau Seneddol Cymru isod.


Cyfanswm costau a threuliau ASau Cymru
Alun Cairns

£191,333

Simon Hart

£186,767

Hywel Williams

£186,612

Glyn Davies

£184,060

Owen Smith

£183,689

Stephen Doughty

£182,823

Jonathan Evans

£182,106

Sian James

£181,745

Geraint Davies

£180,826

Mark Williams

£179,512

Roger Williams

£178,153

Elfyn Llwyd

£177,870

Chris Ruane

£177,828

Guto Bebb

£177,814

Mark Tami

£177,522

Stephen Crabb

£176,794

Kevin Brennan

£175,532

Huw Irranca-Davies

£175,402

Albert Owen

£174,397

Dai Havard

£173,203

Hywel Francis

£171,091

Ian Lucas

£170,364

Peter Hain

£170,091

Paul Flynn

£169,004

David Jones

£168,708

Nia Griffiths

£167,582

David Hanson

£166,110

Chris Evans

£164,616

Jessica Morden

£164,557

Jenny Willott

£163,332

Nick Smith

£162,051

Chris Bryant

£159,881

Paul Murphy

£159,571

Wayne David

£158,692

Jonathan Edwards

£150,582

Madeline Moon

£150,269

Ann Clwyd

£147,188

David Davies

£144,113

Susan Elan Jones

£124,423

Martin Caton

£114,073