Sam Smith
Mae’r canwr o Brydain, Sam Smith wedi cyhoeddi mai fe fydd yn canu cân agoriadol y ffilm James Bond nesaf.

“Dyma un o uchafbwyntiau fy ngyrfa,” meddai ar ei gyfrif Twitter.

Enw’r gân yw Writing’s On The Wall a bydd yn cael ei chyhoeddi ar 25 Medi.

Mae Sam Smith yn enwog am ganeuon fel Stay With Me a La La La, sydd wedi cyrraedd rhif un yn y siartiau.

Y gred yw mai dyma fydd ffilm olaf yr actor Daniel Craig fel yr asiant cudd enwog. Bydd y ffilm yn cael ei dangosiad cyntaf yn Llundain ar 26 Hydref.

Dyma’r gân agoriadol gyntaf i ffilm James Bond sydd wedi cael ei pherfformio gan ganwr gwrywaidd ers i Syr Tom Jones ganu Thunderball yn 1965.