Roedd y ddadl ar arian yr Alban yn rhan ganolog o'r ymgyrch yr adeg hon y llynedd (Llun: PA)
Roedd diffyg polisi credadwy ar arian yr Alban yn ffactor allweddol ym methiant yr ymgyrch dros annibyniaeth, yn ôl un cefnogwr blaenllaw.

Dywed cyn-ddirprwy arweinydd yr SNP, Jim Sillars, fod y methiant i ddatblygu dewis arall heblaw rhannu’r bunt â gweddill Prydain wedi bod yn gamgymeriad mawr.

Yn ymgyrch y refferendwm bron i flwyddyn yn ôl, roedd Llywodraeth yr Alban a’r Prif Weinidog ar y pryd, Alex Salmond, wedi dweud mai eu bwriad fyddai cadw’r bunt a chynnal undod ariannol â gweddill Prydain ar ôl annibyniaeth.

Gan fod y cynllun hwn wedi cael ei wrthod gan y pleidiau eraill, roedd gwrthwynebwyr annibyniaeth yn gallu dadlau nad oedd yn eglur pa arian y byddai’r Alban yn ei ddefnyddio pe bai’n mynd yn annibynnol.

Mewn llyfr newydd a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 18 Medi – flwyddyn union ers y refferendwm – mae Jim Sillars yn disgrifio’r polisi ariannol fel ‘anrheg i’r ochr Na’.

“Drwy gydol yr ymgyrch fe fu’r mater o arian yr Alban yn rhywbeth a gyfrannodd yn helaeth at ansicrwydd pobl,” meddai.

“Yr unig gasgliad y gallwn ddod iddo yw na ellir siarad dim mwy am undod ariannol.

“Rhaid i’r mudiad annibyniaeth fynd am y dewis arall mwyaf amlwg a synhwyrol: sef ein harian ein hunain.”