Ni ddylid croesawu pobol heb swyddi i wledydd Prydain, yn ôl Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Theresa May.

System o ddiffyg ffiniau sydd ar fai am yr argyfwng ymfudwyr a ffoaduriaid diweddar, meddai.

Dywedodd fod yr egwyddor o symud yn rhydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd wedi galluogi pobol ddi-waith i symud o un wlad i’r llall i chwilio am waith a budd-daliadau, gan roi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus.

Ychwanegodd y dylai’r argyfwng fod yn rhybudd i arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn hon, roedd nifer yr ymfudwyr a ffoaduriaid i wledydd Prydain wedi cyrraedd ei lefel uchaf o 330,000.

Dywedodd Theresa May wrth bapur newydd y Sunday Times fod y nifer yn “rhy uchel o lawer” ac yn “anghynaladwy”.

“Ni ddylai lleihau mudo net yr Undeb Ewropeaidd o reidrwydd olygu tanseilio’r egwyddor o symud yn rhydd.

“Pan gafodd ei sefydlu gyntaf, roedd symud yn rhydd yn golygu rhyddid i symud i swydd, nid rhyddid i groesi ffiniau i chwilio am waith neu i hawlio budd-daliadau.”

Ond dywedodd fod 63,000 o bobol wedi dod i wledydd Prydain y llynedd yn ddi-waith.

“Mae hyn yn rhybudd i’r Undeb Ewropeaidd. Rhaid i’w harweinwyr ystyried goblygiadau mudo heb reolaeth – o ran cyflogau, swyddi ac ymrwymiad cymdeithasol i’r cyrchfannau; ar economi a chymdeithasau’r gweddill; ac ar fywydau a lles y sawl sy’n ceisio dod yma.”

Mae mwy na 340,000 o ymfudwyr a ffoaduriaid wedi dod i wledydd Prydain mor belled eleni.

Mae’r Eidal a Gwlad Groeg yn ei chael hi’n anodd cadw trefn ar y sefyllfa, tra bod Macedonia’n wynebu argyfwng.