Mae gwraig o Swydd Gaerhirfryn wedi cael ei chyhuddo o lofruddio ei gwr.

Mae Sharon Edwards, 42, o Parkers Wood Close, yn Chorley wedi’i chyhuddo o lofruddio David Edwards, cyfreithiwr 51 oed.

Roedd y ddau wedi priodi ym mis Mehefin eleni yn Las Vegas a newydd ddychwelyd o’u mis mel.

Cafwyd hyd i David Edwards yn eu cartref nos Sul – roedd wedi cael ei drywanu yn ei frest a bu farw yn y fan a’r lle.

Roedd David Edwards wedi bod yn gyfreithiwr am 26 mlynedd ac yn bartner mewn cwmni lleol, Kevills, yn Chorley, cyn iddo golli ei swydd yn ddiweddar.

Cafodd Sharon Edwards ei chadw yn y ddalfa a bydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Preston y bore ma.