Mae Heddlu Gogledd Cymru yn pryderu am les dynes o Lanllyfni ger Penygroes, Caernarfon sydd wedi bod ar goll ers brynhawn dydd Llun.

Fe gafodd Maria Charmaine Xuereb, sy’n 39 oed, ei gweld ddiwethaf yn Llanllyfni am 4yp dydd Llun, 24 Awst.

Mae’r heddlu’n credu iddi fod yn teithio mewn car Ford Focus lliw piws.

Rhif cofrestru’r car yw V553 GWF.

Mae Maria Charmaine Xuereb yn 5’6 “o daldra, o faint canolig, ac mae ganddi wallt cyrliog du hyd at ei hysgwyddau.

Pan adawodd ei chartref, credir iddi fod yn gwisgo siwmper liwgar gyda thipyn o lwydfelyn arni.

Mae’r heddlu’n apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth am leoliad Marian Charmaine Xuereb i gysylltu â’r Rhingyll Rhys Gough yng Ngorsaf Heddlu Caernarfon ar 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 13783.