Harriet Harman
Bydd Harriet Harman heddiw’n ceisio tawelu meddyliau’r pedwar ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur fod yr etholiad yn un deg.

Mae’r arweinydd dros dro wedi gwahodd y pedwar ymgeisydd i gyfarfod i drafod pryderon am hygrededd yr etholiad.

Mae honiadau fod pobl sydd ddim yn wir aelodau o’r blaid wedi talu £3 i ymuno a Llafur er mwyn ceisio dylanwadu ar y bleidlais.

Ond mae cefnogwyr dilys Jeremy Corbyn hefyd wedi bod yn cwyno eu bod nhw wedi cael eu hatal rhag pleidleisio.

Mae pryderon ymhlith ffigurau amlwg y blaid y bydd Jeremy Corbyn yn ennill y gystadleuaeth ar 12 Medi, ac mae Gordon Brown wedi dweud yn gyhoeddus mai Yvette Cooper yw ei ddewis cyntaf i arwain y blaid.

Mae’r cyn ysgrifennydd cartref, Charles Clarke, hefyd wedi dweud fod y gystadleuaeth yn “drychineb” a fyddai’n debygol o fod yn destun nifer o heriau cyfreithiol.