Fe fydd mynegai’r 100 cwmni (FTSE) yn agor y bore ma ar ôl un o’r dyddiau mwyaf tywyll yn ei hanes diweddar ddoe.

Ddoe, roedd wedi gostwng bron i 5% yn ystod un o’r dyddiau gwaethaf ers yr argyfwng ariannol, wrth i’r pryderon am economi China ledaenu.

Roedd y mynegai wedi gostwng yn is na’r 6,000 gan gyrraedd lefelau sydd heb gael eu gweld ers mis Tachwedd 2012.

Mae’r marchnadoedd stoc ar draws y byd wedi cael eu siglo yn ystod yr wythnosau diwethaf oherwydd bod economi China yn arafu gyda gostyngiad o 6% yn Wall Street.

Mae gwerth cyfrannau ym marchnadoedd China wedi gostwng eto tra bod marchnadoedd eraill Asia wedi dechrau ad-ennill rhywfaint o dir.