Jeremy Corbyn (Garryu Knight CCA 2.0)
Mae’r ffefryn i ddod yn arweinydd y Blaid Lafur wedi rhybuddio ei gyd aelodau seneddol rhag ceisio’i rwystro i ddemocrateiddio’r blaid.

Yn ôl Jeremy Corbyn, fe fydd yn defnyddio grym ei gefnogwyr i newid trefniadau o fewn y blaid a rhoi mwy o lais i bobol gyffredin.

Mae’r datganiad mewn erthyg ym mhapur yr Independent wrth i AS Gogledd Islington drafod beth allai ddigwydd pe bai’n ennill yr etholiad.

Roedd rhaid i ASau sywleddoli mai dim ond rhan o’r Blaid Lafur oedden nhw, meddai.

Kendall – y ddadl am barhau

Yn y cyfamser, mae’r ymgeisydd sy’n cael ei gweld fwya’ i’r dde, Liz Kendall, wedi awgrymu y byddai’n ymuno â grŵp sy’n gwrthwynebu syniadau Jeremy Corbyn.

Wrth gael ei holi, fe ddywedodd y byddai’n barod i ymuno gyda charfan Labour for the Common Good sydd wedi ei sefydlu gan lefarwyr mainc flaen fel Chuka Umunna a Tristram Hunt.

Ac fe ddywedodd y byddai’r ddadl am ddyfodol y Blaid Lafur yn mynd ymlaen am amser hir.

Helynt tros siaradwr

Yn y cyfamser, mae Jeremy Corbyn wedi cydnabod ei fod wedi rhannu llwyfan gyda siaradwr dadleuol o Libanus, ar ôl gwadu hynny i ddechrau.

Ond, ar ôl cael ei ddal gan y cwestiwn ar un o raglenni newyddion y BBC, fe ddywedodd nad oedd yn cofio bod mewn rali gyda Dyab Abou Jahjah yn 2009, ychydig cyn i hwnnw gael ei wahardd o wledydd Prydain.

Fe ymatebodd Jeremy Corbyn yn ffyrnig i awgrym y gallai fod yn wrth-Semitaidd gan ddweud ei fod wedi brwydro yn erbyn hiliaeth ar hyd ei oes.

Roedd yn rhannu llwyfan gyda llawer o bobol, meddai, heb i hynny olygu ei fod yn cytuno â nhw.