Fe fydd tyrau eglwysi’n cael eu defnyddio i ddarparu gwell signal band eang mewn cymunedau gwledig yng Ngwlad yr Haf ac ardal Caerfaddon.
Mae’r drefn newydd yn rhan o gynllun peilot gan ddarparwr gwasanaethau’r we yn Esgobaeth Caerfaddon a Wells.
Mae swyddfa’r esgobaeth yn dweud ei fod wedi’i anelu at bobol sy’n byw yn yr ardaloedd mwya’ gwledig, a phobol sydd ddim yn dod dan gynlluniau’r Llywodraeth i ddarparu band eang cyflym.
“Mae ein heglwysi’n bod er mwyn gwasanaethu pawb yn y gymuned leol,” meddai Richard Tulloch o swyddfa’r esgobaeth. “Bwriad yr eglyws ydi bod wrth galon y gymuned.
“Pa ffordd well sydd yna o ddangos hyn, na thrwy ddefnyddio ein tyrau – y tyrau ucha’ yn yr ardaloedd gwledig – i roi gwell gwasanaeth i bobol.”