Dim ond merched oedd yn ymgeisio mewn is-etholiad yn ynysoedd yr Orkney, a phlaid o’r enw Orkney Manifesto Group gipiodd y sedd.
Yn ol Cyngor Ynysoedd yr Orkney, dyma’r achos cynta’ erioed iddyn nhw gael merched yn unig yn sefyll mewn etholiad – ac fe allai fod y tro cynta’ yn yr Alban gyfan hefyd.
Fe gynhaliwyd yr is-etholiad yn ward West Mainland yn dilyn marwolaeth un o gynghorwyr y blaid Orkney Manifesto Group.
Fe lwyddodd Rachael King i ddal gafael yn y sedd, gyda mwy na 51%, o’r bleidlais rownd gynta’. Dim ond 34% o’r etholwyr wnaeth droi allan i fwrw pleidlais.
Y canlyniad
Orkney Manifesto Group – 593
Ymgeisydd Annibynnol – 446
Y Gwyrddion – 115