Mae adroddiad newydd yn honni fod mwy na hanner graddedigion y Deyrnas Unedig yn gweithio mewn swyddi lle nad oes angen gradd.

Ac mae hynny, meddai, yn golygu bod gormod o bobol ifanc yn cael eu gadael gyda dyled na allan nhw ei thalu’n ôl.

Nawr, mae’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn galw am drafodaeth genedlaethol am bwysigrwydd cyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau ac am greu mwy o gyfleoedd i weithwyr medrus.

‘Prentisiaethau’ yn ateb gwell

Yn ôl yr adroddiad, mae ychydig o dan 60% o raddedigion gwledydd Prydain yn gweithio mewn swyddi lle nad oes angen gradd.

Y cyferbyniad yw gwlad fel yr Almaen, sydd â hanes o hyfforddiant galwedigaethol cryf – dim ond 10% o raddedigion yno sydd mewn swyddi lle nad oes angen gradd.

Mae’r ymchwil yn cefnogi’r syniad y gallai prentisiaethau fod yn ddewis gwell i bobol ifanc sydd newydd gwblhau TGAU neu Lefel A.

Mae’n awgrymu y dylai’r Llywodraeth lansio adolygiad o addysg uwch a sicrhau bod ffocws ar greu mwy o swyddi medrus a parhau i wneud yn siŵr fod rhagor o brentisiaethau ar gael.