Seb Coe
Mae’r cyn-redwr Sebastian Coe wedi cael ei ethol yn llywydd nesa Cymdeithas Ryngwladol y Ffederasiynau Athletau (IAAF).
Fe fydd yn wynebu her anferth wrth orfod arwain ymateb y corff i gamddefnydd o gyffuriau yn y campau.
Mewn pleidlais yng nghyngres yr IAAF yn Beijing, fe lwyddodd i drechu neidiwr polyn o’r Wcráin ac mae wedi addo y bydd, yn ystod ei 100 diwrnod cynta’ yn y swydd, yn sefydlu asiantaeth annibynnol i fynd i’r afael â chyffuriau.
Croeso
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi croesawu penodiad y cyn AS Ceidwadol ac enillydd dwy fedal aur Olympaidd.
Mae Sebastian Coe wedi derbyn cefnogaeth gan y rhedwr pellter Mo Farah a ddywedodd y gall “newid athletau” a gan y Gymraes Tanni Grey-Thompson, y para-athletwraig enwoca’.