Fe fydd y pleidleisiau cyntaf yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn cael eu bwrw heddiw, wrth i bapurau gyrraedd aelodau drwy’r post.

Jeremy Corbyn yw’r ffefryn o hyd i ennill y ras, ac fe fydd e’n mynd ben-ben ag Andy Burnham, Yvette Cooper a Liz Kendall i olynu Ed Miliband.

Fe fydd pleidleiswyr hefyd yn derbyn papurau pleidleisio drwy e-bost yn ystod y dydd.

Wrth i’r ras boethi, dywed Andy Burnham mai fe yw’r unig un allan o’r pedwar all arwain y Blaid Lafur i fuddugoliaeth yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

“Dw i wedi cyflwyno cynllun sy’n radical ac yn gredadwy, all uno’n plaid ni, all siarad â’r genedl ac a all osod y sylfeini ar gyfer buddugoliaeth i Lafur yn 2020.”

Ond mae tîm ymgyrchu Yvette Cooper hefyd yn mynnu mai hi yw’r unig ddewis er mwyn trechu Corbyn.

Dywedodd un o’r ymgyrchwyr: “Er cymaint dw i’n croesawu’r ffordd mae Jeremy wedi cymysgu’r ddadl ar bolisi i fyny, dim ond Yvette all ei guro fe i ddod yn arweinydd Llafur – a’n prif weinidog Llafur nesaf.”

Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar Fedi 12.