Bu farw gyrrwr beic modur yn dilyn damwain ar ffordd A40 ger Llanwrda y bore ma.
Roedd Owen Gwynfryn Nurse o Benclawdd ger Abertawe yn 52 oed.
Roedd yn gyrru beic modur toc wedi 11yb.
Bu farw yn y fan a’r lle o ganlyniad i’w anafiadau.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi apelio am dystion.