Byddai’r Alban yn rhoi cefnogaeth ariannol i geiswyr lloches aflwyddiannus pe bai mewnfudo’n cael ei ddatganoli, meddai’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Alex Neil.

Mae Aelod Seneddol yr SNP wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth Prydain i dorri’r cymorth ariannol sydd ar gael i unigolion sy’n aflwyddiannus wrth wneud cais am loches.

Mewn llythyr at Weinidog Mewnfudo Llywodraeth Prydain James Brokenshire, dywedodd Alex Neil: “Bydd y cynigion yn torri cefnogaeth i rai o’r bobol fwyaf diniwed yn ein Cymdeithas, sydd ond yn derbyn y gefnogaeth honno gan y bydden nhw, fel arall, yn amddifad.”

Ychwanegodd fod y cynigion yn “anghywir yn eu hanfod” a’u bod yn tanseilio’r ymdrechion i greu “Alban decach”.

Dywedodd pennaeth polisi a chyfathrebu Cyngor Ffoaduriaid yr Alban, Gary Christie: “Mae’r ymosodiad hwn ar y sawl y mae eu ceisiadau’n cael eu gwrthod, gan gynnwys nifer o deuluoedd sydd eisoes yn byw mewn tlodi, yn annheg ac yn beryglus.”